Lleoliad:
Hybrid -
Ystafell Bwyllgora 5 Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy
Zoom
Dyddiad:
29 Mehefin 2022
Amser:
09.00
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Helen Finlayson
Clerc y Pwyllgor
0300 200 6565
SeneddIechyd@senedd.cymru
------
Rhag-gyfarfod preifat (09.00 - 09.30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
(09.30)
2 Gwrandawiad cyn penodi ar gyfer rôl Cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: sesiwn dystiolaeth gyda'r ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru
(09.30-10.30) (Tudalennau 1 - 38)
Colin Dennis - yr ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rôl Cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Briff
ymchwil
Papur 1 – Holiadur gwrandawiad cyn penodi
Papur 2 – Ffurflen gais
Papur 3 - CV
Papur 4 – Briff Llywodraeth Cymru
Papur 5 – Pecyn gwybodaeth i ymgeiswyr
3 Papurau i’w nodi
(10.30)
3.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau at y Cadeirydd ynghylch P-06-1250 Dylid agor cyfleuster ysbyty llawn, gan gynnwys adran damweiniau ac achosion brys yng nghanolbarth Cymru
(Tudalennau 39 - 42)
3.2 Llythyr gan y Comisiynydd Cydraddoldeb a Hawliau Dynol at y Cadeirydd ynghylch profiadau o iechyd a gofal cymdeithasol: triniaeth gweithwyr o leiafrifoedd ethnig ar gyflogau is
(Tudalennau 43 - 44)
3.3 Llythyr gan y Cadeirydd at yr Athro Kirby a’r Athro Thapar gyda chwestiynau dilynol ar ôl y sesiwn dystiolaeth ar anghydraddoldebau iechyd meddwl ar 8 Mehefin 2022
(Tudalennau 45 - 46)
3.4 Ymateb gan yr Athro Kirby ynghylch cwestiynau dilynol ar ôl y sesiwn dystiolaeth ar anghydraddoldebau iechyd meddwl ar 8 Mehefin 2022
(Tudalennau 47 - 48)
3.5 Ymateb gan yr Athro Thapar ynghylch cwestiynau dilynol ar ôl y sesiwn dystiolaeth ar anghydraddoldebau iechyd meddwl ar 8 Mehefin 2022
(Tudalennau 49 - 50)
3.6 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch cyfarfod o'r Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Gweinidogion Iechyd y DU
(Tudalen 51)
3.7 Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles at y Cadeirydd ynghylch lansio ymgynghoriad ar yr Amgylchedd Bwyd Iach a dod â gwerthiant diodydd egni i blant i ben
(Tudalennau 52 - 55)
3.8 Llythyr gan Russell George AS, Cadeirydd, y Grŵp Trawsbleidiol ar Ymchwil Feddygol at Weinidog yr Economi gyda chwestiynau dilynol o'r cyfarfod ar 27 Ebrill 2022
(Tudalennau 56 - 57)
3.9 Ymateb gan Weinidog yr Economi at Russell George AS, Cadeirydd, y Grŵp Trawsbleidiol ar Ymchwil Feddygol ynghylch cwestiynau dilynol o'r cyfarfod ar 27 Ebrill
(Tudalennau 58 - 61)
3.10 Llythyr gan y Cadeirydd at Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda chwestiynau dilynol ar ôl sesiwn dystiolaeth yr ymchwiliad i anghydraddoldebau iechyd meddwl ar 19 Mai 2022
(Tudalennau 62 - 63)
3.11 Llythyr gan y Cadeirydd at Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda chwestiynau dilynol ar ôl sesiwn dystiolaeth yr ymchwiliad i anghydraddoldebau iechyd meddwl ar 19 Mai 2022
(Tudalennau 64 - 69)
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn
(10.30)
5 Gwrandawiad cyn penodi ar gyfer Cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: trafod y dystiolaeth
(10.30-10.40) (Tudalennau 70 - 74)
Papur 6 – adroddiad drafft
6 Papur Cwmpasu - Gofal Iechyd Digidol Cymru
(10.40-10.45) (Tudalennau 75 - 79)
Papur cwmpasu
Egwyl (10.45-11.00)
7 Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru sy’n aros am ddiagnosis neu driniaeth: digwyddiad ymgysylltu anffurfiol preifat â rhanddeiliaid
(11.00-12.30) (Tudalennau 80 - 108)
Briff
ymchwil
Gwybodaeth i gyfranogwyr